Ynys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Gwedd
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: my:ကျွန်း(ကုန်းမြေ) |
B r2.6.3) (robot yn ychwanegu: nso:Sehlakehlake |
||
Llinell 162: | Llinell 162: | ||
[[no:Øy]] |
[[no:Øy]] |
||
[[nrm:Île]] |
[[nrm:Île]] |
||
[[nso:Sehlakehlake]] |
|||
[[oc:Illa]] |
[[oc:Illa]] |
||
[[os:Сакъадах]] |
[[os:Сакъадах]] |
Fersiwn yn ôl 19:07, 3 Tachwedd 2011
- Erthygl am y tirffurf yw hon. Am y pentref yng Ngwynedd gweler Ynys (Llanfihangel-y-traethau).
Darn o dir a amgylchynnir gan ddŵr yw ynys (ac eithrio'r cyfandiroedd). Gall fod yn y môr neu ar y tir. Ynys fwyaf y byd yw Yr Ynys Las (2.2 miliwn km² / 840,000 milltir sgwâr).
Mae ynysoedd cyfandirol, fel Prydain, yn gorwedd ar silffoedd cyfandirol gyda dim ond sianel o ddŵr rhyngddyn nhw â'r tir mawr, fel rheol.
Mae ynysoedd cefnforol orogenig yn tueddu i orwedd lle mae dau blât lithosfferig yn cwrdd. Mae ynysoedd Siapan yn odweddiadol o'r fath yma o ynys.
Yn rhannau dyfnaf y cefnforoedd ceir ynysoedd cefnforol fwlcanig, fel ynysoedd Hawaii. Mae'r rhain yn arbennig o gyffredin yn y Cefnfor Tawel. Mae gan nifer o ynysoedd coral seiliau fwlcanig hefyd.
Ynysoedd mwyaf y byd
Ynys | Môr | Arwynebedd (km²) | Gwlad/Gwledydd | |
---|---|---|---|---|
1. | Yr Ynys Las | Cefnfor yr Iwerydd/Cefnfor yr Arctig | 2,130,800 | Yr Ynys Las, Cenedl ymreolaethol oddi mewn Denmarc |
2. | Gini Newydd | Y Cefnfor Tawel | 785,753 | Indonesia/Papua-Gini Newydd |
3. | Borneo | Y Cefnfor Tawel | 748,168 | Indonesia/Malaysia/Brunei |
4. | Madagasgar | Cefnfor India | 587,042 | Madagasgar |
5. | Ynys Baffin | Cefnfor yr Iwerydd/Cefnfor yr Arctig | 507,451 | Canada |
6. | Sumatra | Cefnfor India | 443,066 | Indonesia |
7. | Honshū | Y Cefnfor Tawel | 230,316 | Japan |
8. | Prydain Fawr | Cefnfor yr Iwerydd | 219,331 | Cymru/Lloegr/Yr Alban |
9. | Ynys Victoria | Cefnfor yr Arctig | 217,291 | Canada |
10. | Ynys Ellesmere | Cefnfor yr Arctig | 196,236 | Canada |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/4/4f/Bardsey-island.jpg)