Ynysoedd Ffaröe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: vep:Fareran Sared |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ckb:دوڕگەکانی فارۆ |
||
Llinell 58: | Llinell 58: | ||
[[ca:Illes Fèroe]] |
[[ca:Illes Fèroe]] |
||
[[ce:Фарерийн гІайренаш]] |
[[ce:Фарерийн гІайренаш]] |
||
[[ckb:دوڕگەکانی فارۆ]] |
|||
[[cs:Faerské ostrovy]] |
[[cs:Faerské ostrovy]] |
||
[[da:Færøerne]] |
[[da:Færøerne]] |
Fersiwn yn ôl 18:44, 24 Hydref 2012
Grŵp o ynysoedd yng ngogledd Ewrop rhwng Môr Norwy a'r Cefnfor Iwerydd yw'r Føroyar, Ynysoedd Faroe neu Ynysoedd Ffaröe (Ffaröeg Føroyar, Daneg Færøerne). Arwynebedd y tir yw 1400km². Y brifddinas yw Tórshavn (neu Thorhavn), ar ynys Streymoy.
Maen' nhw'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng Norwy a Gwlad yr Iâ; yr ynysoedd agosaf i'r de yw Shetland. Maen' nhw'n dalaith hunanlywodraethol o Ddenmarc ers 1948. Maen' nhw wedi cymryd cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o'u materion, ac eithrio amddiffyn a materion tramor.
Yr Ynysoedd
Tórshavn yw'r brifddinas, a chanddi boblogaeth o 19,000; yr ail ddinas yw Klaksvik, â phoblogaeth o ryw 6,000. Mae trwch gweddill y boblogaeth wedi'i gwasgaru ymysg y pentrefi arfordirol.
Preswylir 17 o'r 22 ynys. Y prif ynysoedd yw Streymoy, Eysturoy, a Vágar. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fryniog ac mae'r gweithgareddau amaethyddol yn gyfyngiedig i fagu defaid a thyfu tatws. Mae pysgota a phrosesu pysgod yn ddiwydiannau o bwys.
Ardal yr ynysoedd yw 1,399 cilomedr sgwar (540 mi.sg), a nid oes afonydd na llynnoedd o bwys. Mae 1,117 cilomedr (694 mi) o arfordir, a nid oes ffin tirol gyda unrhyw wlad arall. Yr unig ynys nad oes ganddi drigolion yw Lítla Dímun.
Hanes
Daeth trigolion gwreiddiol yr ynysoedd yno adeg y llychlynwyr; mae hanes y trefedigaetho i'w chael yn y Færeyinga Saga.
Diwylliant
Mae diwylliant yr ynysoedd yn hannu o olion o'r hen ddiwylliant lychlynnol scandinafaidd wedi'u cymysgu â diwylliant draddodiadol ffermio a physgota ymgynhaliol.
Iaith gynhenid, a bellach prif iaith swyddogol yr ynys ydyw'r Ffaroeg, iaith Germanaidd sy'n ymdebygu rhywfaint i'r Islandeg.
Gweler hefyd
Cysylltiadau allanol
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol