Neidio i'r cynnwys

Carw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
Twm Elias
→‎top: Manion using AWB
Llinell 28: Llinell 28:


Yn hanner ola'r [[20g]] ymledodd y [[carw mwntjac]] (''Muntiacus reevesi'') i Gymru. Daeth i Barc Woburn o [[Tsieina]] yn nechrau'r [[20g]] o ble y dihangodd ac ymledu'n gyflym.
Yn hanner ola'r [[20g]] ymledodd y [[carw mwntjac]] (''Muntiacus reevesi'') i Gymru. Daeth i Barc Woburn o [[Tsieina]] yn nechrau'r [[20g]] o ble y dihangodd ac ymledu'n gyflym.



==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 20:43, 17 Awst 2017

Ceirw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Is-urdd: Ruminantia
Teulu: Cervidae
Goldfuss, 1820
Is-deuluoedd

Capreolinae
Cervinae
Hydropotinae
Muntiacinae

Mamal sy'n perthyn i'r teulu Cervidae yw carw. Mae e'n byw mewn coedwigoedd a chaiff ei hela. Mae pâr o reiddiau gyda gwryw bron pob rhywogaeth.

Hyd at yr 16g parhâi'r carw coch (enw gwyddonol: Cervus elephas) a'r iwrch (C. capreolus) yn gyffredin yn yr ucheldiroedd, ond yn sgîl clirio coedwigoedd a dyfodiad y gwn prinhaodd y ddau, gan ddiflannu o'r gwyllt ddechrau'r 18g. Cawsant loches mewn parciau stadau, o ble y dihangodd amryw o bryd i'w gilydd. Ceir cofnodion gwasgaredig o'r carw coch tra cynydda ac ymleda'r iwrch o'r dwyrain.

Enwau lleoedd: Cerrig yr Iwrch (Meirion), Llyn Carw (Brycheiniog).

Cyflwynwyd y carw danas (C. dama) i Brydain gan y Normaniaid a daeth i barciau stadau yng Nghymru tua 1600. Dihangodd rhai, e.e. o'r Gelli Aur yn y 1950au a Nannau yn 1962 gan sefydlu'n llwyddiannus yn y gwyllt. Erbyn hyn fe'u ceir ym Meirion, Clwyd, y Gororau, Morgannwg a Chaerfyrddin.

Yn hanner ola'r 20g ymledodd y carw mwntjac (Muntiacus reevesi) i Gymru. Daeth i Barc Woburn o Tsieina yn nechrau'r 20g o ble y dihangodd ac ymledu'n gyflym.

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).



Chwiliwch am carw
yn Wiciadur.