Dinasyddiaeth
Gwedd
Aelodaeth o gymdeithas wleidyddol yw dinasyddiaeth, gyda'r hawl i gyfrannu yn y wleidyddiaeth honno. Dinas oedd y gymdeithas honno yn wreiddiol ond heddiw gwladwriaeth ydyw fel rheol. Gelwir aelod o gymdeithas felly yn ddinesydd.
Mae dinasyddiaeth hefyd yn golygu gweithio er lles y gymuned drwy wirfoddoli ac ymdrechu i wella bywyd yr holl ddinasyddion. Mae rhai ysgolion yng Nghymru a Lloegr yn rhoi gwersi dinasyddiaeth, neu astudiaethau dinesig, sydd yn amrywiad bach ar Addysg Bersonol a Chymdeithasol.