Castell Penfro
- Gweler hefyd Penfro (gwahaniaethu).
Castell ar lân yr afon yng nghanol tref Penfro, Sir Benfro, yw Castell Penfro. Cychwynwyd ar y gwaith o'i godi ym 1093 gan Roger o Drefaldwyn yn gastell pren, yn ystod y cwncwest Normanaidd yng Nghymru. Mae ogof oddi tano'r castell a cafwyd eu defnyddio fel storfa. Dywedir fod pobl wedi darganfod darnau arian Rhufeinig ynddo. Ni chipiwyd y castell byth gan y Cymry, ac roedd felly yn creu Lloegr Fach yng Nghymru.
Hanes
Oddi yno roedd y Normanaid yn cychwyn i oresgyn Iwerddon.
Ym 1138 cafodd Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro y castell. Ar ôl hynny roedd Siasbar Tudur yn ei feddianu. Ym 1456 ganwyd Harri Tudur yn y castell, a fyddai'n ddiweddarach yn frenin Lloegr a sefydlydd llinach frenhinol y Tuduriaid. Ei fam oedd Margaret Beaufort, chwaer-yng-nghyfraith weddw Siaspar Tudur.
Yn ystod Ail Ryfel Cartref Lloegr cafodd y castell ei warchae a'i ddifrodi, ond chafodd o ddim ei gipio mewn brwydr. Ond yn y diwedd, cafodd ei gipio trwy frad.
Cadwraeth a mynediad
Mae'r castell ar rhestr Cadw ac yn ei ofal.