Ynysoedd Kerguelen
![]() | |
Math | ynysfor, district of the French Southern and Antarctic Lands, grŵp o ynysoedd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Yves Joseph de Kerguelen-Trémarec ![]() |
Cylchfa amser | UTC+05:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Tiroedd Deheuol ac Antarctig Ffrainc, French Southern and Antarctic Lands nature reserve ![]() |
Sir | Tiroedd Deheuol ac Antarctig Ffrainc ![]() |
Gwlad | Ffrainc ![]() |
Arwynebedd | 7,215 km², 39,708,000 ha ![]() |
Uwch y môr | 409 metr ![]() |
Gerllaw | Cefnfor India ![]() |
Cyfesurynnau | 49.25°S 69.17°E, 49.25°S 69.1667°E ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Ynysoedd yn rhan ddeheuol Cefnfor India sy'n un o diriogaethau tramor Ffrainc yw Ynysoedd Kerguelen (Ffrangeg: Îles Kerguelen, ar un adeg îles de la Désolation). Maent yn ffurfio un o bump ardal Tiriogaethau deheuol ac Antarctig Ffrainc (Terres australes et antarctiques françaises) (TAAF). Y brif ynys yw Grande-Terre des Kerguelen, sy'n ynys trydydd-fwyaf Ffrainc. Nid oes poblogaeth barhaol ar yr ynysoedd.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/de/Kerguelen-pos.png/240px-Kerguelen-pos.png)
Darganfyddwyd yr ynysoedd yn 1772 gan Yves Joseph de Kerguelen de Trémarec. Hyd ar ddechrau'r 20fed ganrif, defnyddid hwy gan helwyr morloi a morfilod. Gostyngodd niferoedd y rhain yn fawr oherwydd gor-hela, ond maent yn awr wedi cynyddu eto. Ceir hefyd lawer o adar y môr yn nythu yma, yn cynnwys yr albatros. Ers 1950, mae Ffrainc wedi cynnal gorsaf wyddonol Port-aux-Français yma, gyda staff o 60 hyd 100 o bobl.
Mae Kerguelen hefyd yn deitl cerdd gan Waldo Williams.