Charles Paget
Charles Paget | |
---|---|
Ganwyd | 7 Hydref 1778 |
Bu farw | 27 Ionawr 1839 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | Henry Paget |
Mam | Jane Champagné |
Priod | Elizabeth Monck |
Plant | Elizabeth Jane Paget, Caroline Paget, Louisa Augusta Paget, Georgina Paget, Frederica Paget, Jane Paget, Charles Henry Paget, Edward James Paget, Brownlow Henry Paget |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Roedd yr Is-Lyngesydd Syr Charles Paget GCH (7 Hydref 1778 - 27 Ionawr 1839) yn forwr Prydeinig ac yn wleidydd Rhyddfrydol a gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Milborne Port a Bwrdeistrefi Caernarfon.[1][2]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Roedd Syr Charles yn bumed mab i Henry Bayly Paget, nawfed Barwn Paget a'r iarll cyntaf Uxbridge o'r ail greadigaeth a'i wraig, (Jane née Champagne). Roedd yn frawd i Henry William Paget, ardalydd cyntaf Môn, Syr Arthur Paget, a Syr Edward Paget.
Ar 7 Mawrth 1805 Priododd Elizabeth Araminta (bu f. 1843), merch Henry Monck o Foure, Swydd Westmeath; bu iddynt bedwar mab a chwe merch. Pythefnos ar ôl priodi ceisiodd cyflawni hunanladdiad trwy gymryd gorddos o lodnwm ar ôl i'w wraig ei watwar[3].
Gyrfa forwrol
[golygu | golygu cod]Aeth Paget i'r Llynges Frenhinol ym 1790 o dan nawdd Syr Andrew Snape Douglas, ac, ar ôl gwasanaethu ym Môr y Gogledd a Môr Udd, cafodd ei benodi'n is gapten ar y gwarchodlong Centaur yn y Tafwys ym 1796; ym 1797 fe'i dyrchafwyd yn feistr ar y slŵp Martin ym Môr y Gogledd, ac ym 1797 cafodd ei bostio i'r Penelope a oedd yn amddiffyn Môr Udd.
O fis Hydref 1798 fe fu'n feistr yr Brilliant ar Fôr Udd ac wedyn y Hydra ar Fôr Udd ac ar Fôr y Canoldir. Ym 1803 bu'n feistr yr Endymion ffrigad fawr, gan ei hwylio ar Fae Bizkaia ac ar arfordiroedd Iberia. Ym 1804 cipiodd pedair llong drysor Sbaenaidd o Dde America, gan ennill gwerth £26,000 o drysorau.
Rhwng 1817-1819 roedd yn feistr i un o gychod hwylio brenhinol y Dywysog Rhaglaw. Ym 1823 fe'i dyrchafwyd yn gefn-lyngesydd. Rhwng 1828 a 1831 ef oedd gadlywydd blaenaf gorsaf Corc y llynges a oedd yn gyfrifol am amddiffyn arfordiroedd yr Iwerddon. Ym 1837, fe wnaed is-lyngesydd gyda chyfrifoldeb am orsaf Gogledd America ac India'r Gorllewin swydd bu ynddi hyd ei farwolaeth.[4]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Gwasanaethodd Paget fel Aelod Seneddol Milbourn Port, etholaeth bwdr ym mhoced ei deulu ger Sherborne, Gwlad yr Haf rhwng 1804 a 1806 pan ildiodd y sedd i'w gefnder Henry William yr Arglwydd Paget.
Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon, etholaeth arall a ystyriwyd oedd yn eiddo i'w deulu rhwng 1806 a 1826 gan ildio'r sedd i'w nai yr Arglwydd William Paget. Etholwyd ef dros Fwrdeistrefi Caernarfon am yr ail dro ym 1831. Cafodd ei herio am y sedd yn etholiad cyffredinol 1832, y cyntaf ar ôl pasio'r Deddf Diwygio Fawr; wedi cyfri'r pleidleisiau cyhoeddwyd mai ef oedd y buddugol. Heriwyd y canlyniad gan ei wrthwynebydd yn yr etholiad, Owen Jones Ellis Nanney, a honnodd bod nifer o'r rai a fwriodd pleidlais ar gyfer Paget heb hawl gyfreithiol i wneud hynny a bod nifer o etholwyr dilys oedd am bleidleisio iddo ef wedi eu gwrthod. Ar 5 Mawrth 1833 cytunodd pwyllgor seneddol bod y canlyniad yn annilys a bod Nanney wedi ei iawn ethol[5]. Apeliodd Paget yn erbyn y penderfyniad ar y sail nad oedd y pwyllgor gwreiddiol wedi rhoi sylw dilys i'w ddadleuon yntau ac ar 16 Mai 1833 penderfynodd pwyllgor newydd mae Paget oedd yr aelod dilys[6][7].
Roedd Paget yn cefnogi'r Whigiaid, mewn enw, yn y Senedd er dim ond ar unwaith ynganodd gair mewn araith yno; araith yn clodfori nofdorch Mallison, a gwan oedd ei record o bleidleisio yn Nhŷ'r Cyffredin, yn bennaf gan ei fod yn gwario gymaint o amser i ffwrdd ar y môr.[3]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Gwnaed Paget yn Farchog Cadlywydd yn yr Urdd Guelphic Brenhinol (KCH) ym 1819 gan gael ei ddyrchafu yn Farchog y Groes Fawr (GCH) yn yr un urdd ym 1832; fe'i penodwyd ef yn was yr ystafell wely ym 1822.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw o'r dwymyn felen yn ar fwrdd ei long ym mhorthladd St Thomas, Jamaica, ar 27 Ionawr 1839 yn 61 mlwydd oed, claddwyd ei weddillion yn y fynwent milwrol a morwrol ar Ysys Ireland, Bermuda ceir cofeb iddo yn Eglwys Rogate, Sussex[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur PAGET (TEULU), Plas Newydd, Llanedwen, Môn adalwyd 6 Mehefin 2016
- ↑ J. K. Laughton, ‘Paget, Sir Charles (1778–1839)’, rev. Andrew Lambert, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 accessed 6 June 2016
- ↑ 3.0 3.1 PAGET, Hon. Charles (1778-1839), of Fair Oak, Rogate, Suss. History of Parliament adalwyd 6 Mehefin 2016
- ↑ 4.0 4.1 A memoir of the Honourable Sir Charles Paget G.C.H. (1778-1839) vice-admiral of The White and commander-in-chief of the North America II And West Indian station and reminiscences of my life and family gan Edward Clarence Paget; Toronto 1911 adalwyd 6 Mehefin 2016
- ↑ "Notitle - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1833-03-12. Cyrchwyd 2016-06-05.
- ↑ "HOUSE OF COMMONS - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1833-05-25. Cyrchwyd 2016-06-05.
- ↑ Cases of Controverted Elections determined in the Eleventh Parliament of the United, gan Sir Alexander James Edmund Cockburn, Sir William Carpenter Rowe Tŷ’r Cyffredin 1833 tud 127-138 a 550-560
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Edward Paget |
Aelod Seneddol Caernarfon 1806 – 1826 |
Olynydd: William Paget |
Rhagflaenydd: William Ormsby-Gore |
Aelod Seneddol Caernarfon 1831 – 1833 |
Olynydd: Owen Jones Ellis Nanney |
Rhagflaenydd: Owen Jones Ellis Nanney |
Aelod Seneddol Caernarfon 1833 – 1835 |
Olynydd: Love Parry Jones-Parry |