Llwyd ap Iwan
Llwyd ap Iwan | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 20 Chwefror 1862 ![]() y Bala ![]() |
Bu farw | 29 Rhagfyr 1909 ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin, Cymru ![]() |
Galwedigaeth | fforiwr, peiriannydd ![]() |
Tad | Michael D. Jones ![]() |
Mam | Anne Lloyd Jones ![]() |
Plant | Mihangel Gruffydd ap Iwan ![]() |
Tirfesurydd a fforiwr oedd Llwyd ap Iwan, a mab-yng-nghyfraith i Lewis Jones (20 Chwefror 1862 – 29 Rhagfyr 1909), a gafodd ddylanwad mawr ar hanes y Wladfa ym Mhatagonia.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7f/LLwyd_Ap_Iwan.jpg/220px-LLwyd_Ap_Iwan.jpg)
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd Llwyd Ap Iwan yn fab i Michael D. Jones, un o arloeswyr y syniad o sefydlu'r Wladfa. Daeth i Batagonia yn 1886 fel peiriannydd ar Reilffordd Canol Chubut, oedd yn cael ei hadeiladu i gysylltu'r Wladfa a Puerto Madryn.
Rhwng 1893–1894, rhwng 1894–1895 ac ym 1897, aeth ar deithiau i chwilio rhannau o'r wlad lle nad oedd unrhyw Ewropeaid wedi bod o'r blaen, gan ddefnyddio arweinwyr o blith y Tehuelche.
Tua dechrau'r 20g symudodd Llwyd ap Iwan a'i deulu i Gwm Hyfryd (a enwyd yn ddiweddarach yn Colonia 16 de octubre). Roedd yn gyfrifol am gangen Rhyd y Pysgod (Arroyo Pescado) o'r Compañía Mercantil del Chubut, tua 30 km o Esquel. Ar 29 Rhagfyr 1909, saethwyd Llwyd ap Iwan yn farw wrth i ddau fandit Americanaidd, Wilson ac Evans, geisio dwyn arian oddi yno.
Cred rhai awduron mai Butch Cassidy a'r Sundance Kid oedd y ddau yma, ond ymddengys fod y ddau yma eisoes wedi eu lladd ym Molifia cyn dyddiad y llofruddiaeth.